1 I serch a roes merch i mi
2 Seren cylch nant y seri
3 morwyn wych nid y marn au
4 Morfydd wyl mawr feddyliau
5 Cyd collwyf o wiw nwyf vthr
6 fy anrhaith a fu iawnrhuthr
7 Cyd bu brid ein newid ni
8 Prid oed ir priod eiddi
9 Eithr rhag anfodd vthr geinfyw
10 Duw fry di adifar yw
11 gwedi chariad brad fu'r braw
12 lloer byd rhoi llw ar beidiaw
13 O cherais wraig mewn meigoel
14 Wrth lynn y porthmonnyn moel
15 Gwragennus escus osgordd
16 gwraig rhyw ben aic rhobyn nordd
17 Elen chwannog i olud
18 fy anrhaith ar lediaith lud
19 Brenhines arglwyddes gwlan
20 Brethyndai bro eithin-dan
21 Dy serchog oedd raid yno
22 gwae hi nad myfi fae fo
23 Ni chymer hon wiw-don wedd
24 gerdd yn rhad gwrdd anrhydedd
25 [9v] hawdd oedd gael gafael gyfa
26 haws na dim hossannau da
27 Ac os caf liw gwynnaf gwawn
28 o fedlai a'm 'n fodlawn
29 nid ydwyf nwyf anofal
30 rho Duw heb gaffael rhyw dâl
31 Ai er eiriau arwyrain
32 Ai ar feddwl cerddgarwl cain
33 Ai ar aur cyd dihaurwyf
34 Ai ar ryw beth arab wyf
35 hefyd cyd bo fynhafawd
36 i ddyddgu yn gweu gwawd
37 Nid oes i'm myn Duw o swydd
38 Ond olrain anwadalrwydd
39 Gwawr brenhiniaeth maeth ai medd
40 Y byd wyr yw'r bedwaredd
41 Ni chaiff o'm pen cymen call
42 hoen geirw na hi nac arall
43 Nai henw na'r wlad i'r hanoedd
44 hoff iawn yw na pha vn oedd
45 Nid oes na gwraig benn aig nwyf
46 Na gwr cymyn a garwyf
47 A'r forwyn glaer galch gaer gylch
48 Nos da iddi nis diylch
49 Cair gair o garu'n ddiffrwyth
50 Caf nid arbedafi bwyth
51 Be gwypai gobaith vn-dyn
52 mai amdani hi fai hyn
53 Pe cyn-ddrwg gein em rudd-deg
54 genddi a'i chrogi wych reg
55 mwy lawnbwys mau elyn-boen
56 Moli a wnaf hi nyf hoen
57 Hoew ei llun a holl wynedd
58 Ai mawl gwyn ei fyd ai medd
dd' ap Gwilym